Trosolwg
Trosolwg
Mae'r Diploma Lefel 5 yn rhaglen Prentisiaeth Uwch a ariennir* gan Lywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau a thechnegau rheoli ac arwain trwy ddull asesu cymysg, gan ddarparu cymhwyster sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr mewn addysg ac a gydnabyddir yn rhyngwladol ar draws pob sector o ddiwydiant.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Rheolwyr canol sydd â chyfrifoldeb am raglenni a/neu adnoddau sylweddol sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae'n datblygu sgiliau rheoli pobl, cynllunio strategol, newid strategol a dylunio prosesau busnes er mwyn gyrru gwelliannau ac yna gwella perfformiad. Mae'r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd newydd ddechrau o fewn swyddi rheolwyr canol neu arweinwyr canol profiadol sy'n edrych i wella rhagolygon gyrfa.
Gwybodaeth bellach
Dyma rai o'r manteision y gall dysgwyr ac sefydliadau eu hennill o'r cymwysterau ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Buddion i Ddysgwyr
- Gwella eich dealltwriaeth o dechnegau arwain a rheoli penodol i wella'ch ymarfer a gwella perfformiad ysgolion
- Ennill achrediad ffurfiol ar gyfer sgiliau yr ydych eisoes yn dangos cymhwysedd ynddynt, tra'n datblygu sgiliau arwain a rheoli newydd
- Gwella'ch CV ar gyfer mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi gyda chymhwyster sy'n drosglwyddadwy ar draws pob sector o ddiwydiant
- Dull dysgu hyblyg, gan weithio o'ch cwmpas a'ch ymrwymiadau
- Dim cost i chi
- Cefnogaeth gan eich asesydd penodedig bob cam o'r ffordd
- Tystiolaeth o gymryd perchnogaeth ar eich datblygiad proffesiynol eich hun
- Gall arwain at ddilyniant gyrfa
- Datblygu sgiliau strategol
Buddion i'r Sefydliad
- Cymhwyster sy’n datblygu sgiliau rheoli ac arwain eich gweithwyr
- Cymhwyster sy’n annog meddwl strategol a allai gynorthwyo a gwella effeithlonrwydd a chystadleurwydd
- Ffordd werthfawr i annog datblygiad personol gweithwyr a ffordd dda o ddarparu buddion clir i'r rhai sydd am ddatblygu eu hunain neu sydd yn edrych i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd
- Y gallu i addasu'r cymhwyster yn benodol ar gyfer anghenion datblygiad proffesiynol eich gweithwyr a'u nodau gyrfa
Gwybodaeth ddefnyddiol
Hyd y Cwrs
Hyd at 18 mis
Cost
Dim cost i'r dysgwr na'r ysgol. Cymhwyster a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop
Unedau'r Cymhwyster
Galwedigaethol, Damcaniaeth a Sgiliau HanfodolCofrestru
Darperir proses gofrestru gynhwysfawr a chefnogaeth gan asesydd dynodedig
Beth mae'n Dysgwyr yn ei ddweud
"Mae staff Portal yn hynod o gynorthwyol a chefnogol, ac rydw i wedi elwa o gael sesiynau mentora rheolaidd yn fy nghyfarwyddo i amrywiol dasgau drwy gydol y cwrs "
Elin Llŷr
Deryn
"Mae natur bwrpasol y cwrs yn caniatáu i'r dysgu cael ei deilwra a'i ganolbwyntio ar nodau a chanlyniadau sy'n berthnasol i'm rôl sydd felly yn sicrhau gwerth busnes go iawn"
Graham Stephens
Adapt
"Mae'r cwrs wedi fy ngalluogi i fyfyrio ar fy ymarfer fy hun i ddeall fy nghryfderau a gwendidau, a sut i ddatblygu'r ddau ymhellach"
Matt Anthony
Cymdeithas Darparwyr Addysg Dan Oed Ysgol