Portal Living Wage

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Portal bellach yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig! Mae hyn yn golygu y bydd pob aelod o staff sy'n gweithio i Portal yn ennill Cyflog Byw go iawn, o leiaf.

Mae'r Cyflog Byw go iawn yn uwch na lleiafswm y Llywodraeth, neu Gyflog Byw Cenedlaethol, ac mae'n gyfradd tâl fesul awr a gyfrifir yn annibynnol, sy'n seiliedig ar wir gost byw. Caiff ei gyfrifo bob blwyddyn ac fe'i cyhoeddir gan y Sefydliad Cyflog Byw (Living Wage Foundation) fel rhan o'r Wythnos Gyflog Byw. Ar hyn o bryd mae'n £9.00 yn y DU, gyda chyfradd uwch o £10.55 yn Llundain, sy'n adlewyrchu'r costau uwch o fyw yn y brifddinas.

 

Mae dros 4,700 o sefydliadau, gan gynnwys Portal, yn dewis talu'r Cyflog Byw go iawn gwirfoddol oherwydd ein bod yn credu bod diwrnod o waith caled yn haeddu cyflog teg.

Mae'r ymrwymiad hwn yn berthnasol nid yn unig i staff a gyflogir yn uniongyrchol ond hefyd i'n staff dan gontract. Rydym yn falch iawn o'r ymrwymiad hwn ac yn falch o rannu'r newyddion da gyda'n dysgwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill.

Sut mae hyn yn cyd-fynd â gwerthoedd y sefydliad?

Rydym yn falch o fod yn gwmni sy'n rhoi ein staff wrth wraidd popeth a wnawn.

Ein cenhadaeth yw bod yn ddarparwr hyfforddiant a datblygiad blaenllaw gyda phobl wych yn cyflawni rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn.

Mae ennill yr achrediad hwn yn dangos dau o'n pedwar gwerth craidd. Rydym yn dangos parch at gydweithwyr trwy sicrhau ein bod yn rhoi cyflog teg i staff am ddiwrnod caled o waith. Rydym yn ymdrechu i fod yn wych - dim ond gyda chefnogaeth a gwaith caled ein cydweithwyr y mae hyn yn bosib!

Gwybodaeth Bellach

Am fwy o wybodaeth yn ymwneud â’r Cyflog Byw, ewch i www.livingwage.org.uk