Portal Directors and P&D Manager grouped together holding their IIP Gold awards

Mae Cwmni Portal, darparwyr hyfforddiant dwyieithog deinamig ac arloesol, yn falch i gyhoeddi ei bod wedi ennill achrediad aur Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP) yn ogystal a feddu ar Aur mewn Buddsoddi mewn llesiant.

Mae’r garreg filltir arwyddocaol hon yn gosod Portal fel y darparwr hyfforddiant cyntaf yng Nghymru i ddal aur yn y ddwy wobr - Rydym yn buddsoddi mewn pobl a Rydym yn buddsoddi mewn llesiant.

Sefydlwyd y cwmni yn 2010, fel darparwyr hyfforddiant dwyieithog sydd bellach yn brofiadol a sefydledig, ac yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth yn ogystal â chapasiti hyfforddi a mentora eu gweithlu. Ei nod yw helpu i godi cyflawniad a gwella perfformiad ymhlith gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sectorau addysg, busnes, chwaraeon ac elusennau.

Mae cyflawni Aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn cynrychioli ymrwymiad diflino Portal i feithrin amgylchedd gwaith cefnogol sy’n canolbwyntio ar y pobl. Mae'n tanlinellu cred gref y sefydliad yng ngwerth eu tim a'u hymdrechion parhaus i feithrin gweithle cynhwysol, ysgogol ac ymgysylltiol.

Estynnodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl, ei longyfarchiadau i Portal, gan dynnu sylw at natur eithriadol y cyflawniad hwn, "Hoffem longyfarch Portal. Mae derbyn achrediad aur Rydym yn buddsoddi mewn pobl yn ymdrech wych i unrhyw sefydliad ac mae’r achrediad yma wedi lleoli Portal ymysg sefydliadau arbennig o dda ar draws Prydain sy'n deall gwerth pobl."

Roedd Portal yn meddu ar achrediad Rydym yn buddsoddi mewn pobl yn barod, cyn ychwanegu Rydym yn buddsoddi mewn llesiant achrediad aur i hyn ac hefyd ennill Gwobr Busnes Bach y Flwyddyn IIP yn 2021. Gyda’r cyflawniad diweddaraf yma, mae Portal yn dangos ei cadarnhad a’i hymrwymiad parhaus i fuddsoddi a meithrin yn ei gweithlu i’w cadw’n iach ac yn hapus ac i barhau i gynnal diwylliant cadarnhaol yn y gweithle.

Datganodd Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr Portal, ei llawenydd a’i balchder yn y cyflawniad diweddaraf hwn, gan ddweud, “Mae wirioneddol yn fraint cael ein cydnabod fel darparwr hyfforddiant cyntaf Cymru i ennill y ddau achrediad Aur IIP. Mae’r cyflawniad yma yn destament i safon eithriadol ein tîm. Nhw sydd wrth galon ein llwyddiannau i gyd. Mae'r naws cynnes sydd o fewn y cwmni oherwydd aelodau ein tîm syn byw ein gwerthoedd craidd ac yn gofalu am ein gilydd. Ni allwn ni, fel Cyfarwyddwyr, ddiolch ddigon iddynt am eu gwaith a’u hymroddiad parhaus i Portal".

Ychwanegodd Sarah Heenan, Rheolwr Pobl a Datblygu Portal, “Rydym wrth ein bodd fel busnes bach/cymhedrol o fewn y maes dysgu seiliedig ar waith, i dderbyn achrediad aur gan Fuddsoddwyr mewn Pobl. Yn Portal, nid tîm yn unig ydyn ni; rydym yn deulu cefnogol. Mae ein cyfarwyddwyr wedi’i hymrwymo'n llawn i gynnal yr 'ymdeimlad teuluol', syn sicrhau bod yr holl staff yn hapus, yn ymgysylltu ac yn cael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith. Gyda'r rhan fwyaf ohonom yn treulio llawer iawn o oriau yn ein gwaith, rhaid i ni barhau i gofleidio safonau Pobl a Datblygu fel IIP i sicrhau na fyddwn byth yn hunanfodlon ac yn parhau i wneud Portal yn lle gwych i weithio”.

Wrth i Portal ddathlu’r cyflawniad diweddaraf hwn, maent yn gyffrous am y daith sydd o’n blaenau, gyda thîm ysbrydoledig a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol disglair y sefydliad.


Yn y llun: Rhes gefn o'r chwith i'r dde: Janice Hart, Cyfarwyddwr Ansawdd a Clare Jeffries, Cyfarwyddwr Gweithrediadau.
Rhes flaen o'r chwith i'r dde: Sarah Heenan, Rheolwr Pobl a Datblygu a Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr.