educators level5

Trosolwg

 

Trosolwg

Mae'r Diploma Lefel 4 yn rhaglen Prentisiaeth Uwch a ariennir* gan Lywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau a thechnegau rheoli ac arwain trwy ddull asesu cymysg, gan ddarparu cymhwyster sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr mewn addysg ac a gydnabyddir yn rhyngwladol ar draws pob sector o ddiwydiant.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

Rheolwyr canol sydd â chyfrifoldeb am raglenni a/neu adnoddau sylweddol sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae'n datblygu sgiliau rheoli pobl, cynllunio strategol, newid strategol a dylunio prosesau busnes er mwyn gyrru gwelliannau ac yna gwella perfformiad. Mae'r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd newydd ddechrau o fewn swyddi rheolwyr canol neu arweinwyr canol profiadol sy'n edrych i wella rhagolygon gyrfa.

 

Gwybodaeth bellach

Dyma rai o'r manteision y gall dysgwyr ac sefydliadau eu hennill o'r cymwysterau ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Buddion i Ddysgwyr

 

  • Gwella eich dealltwriaeth o dechnegau arwain a rheoli penodol i wella'ch ymarfer a gwella perfformiad ysgolion
  • Ennill achrediad ffurfiol ar gyfer sgiliau yr ydych eisoes yn dangos cymhwysedd ynddynt, tra'n datblygu sgiliau arwain a rheoli newydd
  • Gwella'ch CV ar gyfer mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi gyda chymhwyster sy'n drosglwyddadwy ar draws pob sector o ddiwydiant
  • Dull dysgu hyblyg, gan weithio o'ch cwmpas a'ch ymrwymiadau
  • Dim cost i chi
  • Cefnogaeth gan eich asesydd penodedig bob cam o'r ffordd
  • Tystiolaeth o gymryd perchnogaeth ar eich datblygiad proffesiynol eich hun
  • Gall arwain at ddilyniant gyrfa
  • Datblygu sgiliau strategol

 

Buddion i'r Sefydliad

 

  • Cymhwyster sy’n datblygu sgiliau rheoli ac arwain eich gweithwyr
  • Cymhwyster sy’n annog meddwl strategol a allai gynorthwyo a gwella effeithlonrwydd a chystadleurwydd
  • Ffordd werthfawr i annog datblygiad personol gweithwyr a ffordd dda o ddarparu buddion clir i'r rhai sydd am ddatblygu eu hunain neu sydd yn edrych i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd
  • Y gallu i addasu'r cymhwyster yn benodol ar gyfer anghenion datblygiad proffesiynol eich gweithwyr a'u nodau gyrfa

Gwybodaeth ddefnyddiol

Hyd y Cwrs

course duration

Hyd at 18 mis

Cost

Training Cost

Dim cost i'r dysgwr na'r ysgol. Cymhwyster a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop

Unedau'r Cymhwyster

Qualification Units Galwedigaethol, Damcaniaeth a Sgiliau Hanfodol

Cofrestru

course enrolment

Darperir proses gofrestru gynhwysfawr a chefnogaeth gan asesydd dynodedig

Beth mae'n Dysgwyr yn ei ddweud

Deryn

"Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy'n dymuno datblygu eu gyrfa a dysgu mwy am arweinyddiaeth a rheolaeth"
Elin Llŷr
Deryn

 

Barley Lane School

"Mae'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gynigir gan Portal wedi bod o gymorth mawr i'm datblygiad proffesiynol parhaus a byddaf yn sicr o helpu i wella fy rhagolygon gyrfa ymhellach "
Graham Stephens
Adapt

 

Wales Pre-school

"Cefais y cyfle i uwchsgilio fy hun er mwyn dod yn arweinydd gwell ar gyfer fy nhîm"
Matt Anthony
 Cymdeithas Darparwyr Addysg Dan Oed Ysgol